TEITL |
Rheoliadau Pysgodfeydd Môr (Y Comisiwn Rhyngwladol ar Warchod Pysgod Tiwna Iwerydd) (Diwygio) (Rhif 2)2024
|
DYDDIAD |
19 Mawrth 2024 |
GAN |
Lesley Griffiths AS, Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd |
Bydd Aelodau'r Senedd yn dymuno gwybod ein bod yn rhoi cydsyniad i'r Ysgrifennydd Gwladol arfer pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth mewn maes datganoledig mewn perthynas â Chymru.
Gofynnwyd am ganiatâd ar 15 Ionawr 2024 gan yr Arglwydd Douglas-Miller, y Gweinidog Bioddiogelwch, Iechyd a Lles Anifeiliaid, i wneud offeryn statudol dan y teitl Rheoliadau Pysgodfeydd Môr (Y Comisiwn Rhyngwladol ar Warchod Pysgod Tiwna Iwerydd) (Diwygio) (Rhif 2) 2024. Mae Rheoliadau 2024 yn gymwys mewn perthynas â Phrydain Fawr a Gogledd Iwerddon.
Bydd Rheoliadau 2024 yn cael eu gwneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol wrth arfer y pwerau a roddir gan adran 36(1)(a)a 36(1)(b) y adran 51(a)o Ddeddf Pysgodfeydd 2020.
Mae'r offeryn hwn yn gwneud diwygiadau i gyfraith ganlynol yr UE a ddargedwir:
Rheoliad (EU) 2016/1627 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gynllun adfer amlflwydd ar gyfer tiwna asgell las yn Nwyrain yr Iwerydd a Môr y Canoldir.
Rhoddwyd caniatâd gan fod y Rheoliadau hyn yn sicrhau bod y DU yn cydymffurfio â'i rhwymedigaethau o dan y Confensiwn Rhyngwladol ar Warchod Pysgod Tiwna Iwerydd (y Confensiwn). Er mwyn iddynt fod yn effeithiol, ystyrir iddynt fod yn gymwys ar sail y DU ac i bob cwch sy'n gweithredu yn nyfroedd y DU neu ble bynnag y bônt.
Gosodwyd y Rheoliadau gerbron Senedd y DU ar 14/03/2024 a byddant yn dod i rym ar 7/06/2024.